#Adverts & Sponsored Posts

#Hysbys - Creu fy Wal Oriel i'r Cegin

(Mae'r erthygl yma yn cynnwys lincs lle rwyf wedi derbyn taliad fel nodwyd gyda **)

Flwyddyn dwythaf ddaru ni ail wneud ein cegin. Tynnwyd waliau, rhoddwyd unedau newydd i fewn, llawr newydd... mae'n brydfreth! Ond er byw hefo fo am flwyddyn, mae na dal un peth sydd ar goll... ein* wal oriel! Ar ôl ymchwil helaeth ar Pinterestdyma sut rwyf am greu fy wal oriel i'r cegin.

(* Dwi'n dweud "ein" ond dwi'n golygu "fy"... tydi o ddim yn cael llawer o ddewis o be dwi'n rhoi i fyny!)

Hel Eich Addurniadau

Mae pwy bynnag sydd yn fy nabod i, yn gwybod faint dwi'n caru trenau stêm ac yn naturiol bydd fy wal oriel yn cynnnwys trenau stêm! Dwi yn barod wedi ffeindio bits a bobs i rhoi i fyny:

  • placiau yn manylu diwedd lein y Ff&WHR (A470 Blaenau Ffestiniog a A487 Caernarfon)
  • baromedr (wedi torri ychydig) sydd wedi dod o dŷ Taid (cartref fy mhlentyndod)
  • print A4 o ddefaid Gymreig (angen ei roi mewn ffrâm)
  • gwaith celf llechi gydag ymadrodd Cymraeg “Braf yw gwasanaeth gwasanaeth byd, ond brafiach yw dod allan”

Yn ogystal i rhain dwi hefyd eisiau rhoi rhai silffoedd i fyny i ddal potiau planhigion a goleuadau twincli.

Penderfynu ar Gynllun

Mae hyn yn trici oherwydd da chi ddim eisiau gosod yr eitemau hyd nes eich bod wedi penderfynnu ar y cynllun. Ond sut ydach chi'n penderfynnu ar gynllun heb rhoi nhw ar y wal? Wel dyma'r darn clyfar, amlinellwch eich eitamy ar bapur a sticio i'r wal gyda Blu Tack.

Ychwanegu i'r Oriel

After playing around for a while I settled on a layout but the wall still looks bare. After listening to a few Welsh songs I’ve found a few lyrics that I’ve decided to place on the wall. My calligraphy skills are not up to scratch so instead I’m going to have to find some fancy fonts to create them, for example there some really nice fancy ones at Font Bundles (some are free fonts** but I might fork out to get some fancier script fonts**)

Y dyfyniadau rwyf am roi ar canvas yw rhai sydd yn ymwneud â Blaenau Ffestiniog gan eu bod yn dod o gân Cwmorthin gan Mim Twm Llai:

Tra bod hiraeth yn fy mron
A’i nol i Gwmorthin,
Lle mae’n enw i wedi’i grafu,
Ar lechan las.

Dwi'n meddwl bysai'n ychwanegiad bach da i'r wal oriel. Dwi heb benderfynnu pan ffont dwi am ddefnyddio eto oherwydd dwi eisiau ffont ffansi ond sydd yn gweddu hefo gweddill yr eitemau.

Hefyd dwi'n meddwl mod i angen rhai lluniau sydd yn arddangos injan neu ddau gan y Rheilffordd Ffestiniog. Ar hyn o bryd dwi'n trio penderfynnu rhoi rhai o fy hen luniau i fyny, neu prynu un neu ddau o eitemau o'u siop.

Cwblhau y Dylunniad

Mae na un peth dwi'n credu sydd ei angen ym mhob cegin a cloc ydi hwnnw. Be fasnw i'n hoffi'n fawr yw cloc gorsaf ond dwi'n cael trafferth ffeindio un. Dwi wedi gweld ambell i un bysai'n gweithio ond dwi am dal i edrych drwy Ebay rhag ofn i mi ddod ar draws rhywbeth.

Er bod y gwr wedi dysgu sut i rhoi silffoedd i fyny, dwi dal dim cweit yn barod i rhoi bob dim yn ei le, mae gen i ofn bydd rhaid i chi aros cyn cael gweld y canlyniad!

Oes gennych chi wal oriel? Unrhyw awgrymiadau cyn i mi rhoi bob dim yn ei le?

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .