(Er gwybodaeth, dwi wedi gweithio gyda'r Rheilffordd Ffestiniog a Zipworld sydd yn cael eu henwi yn yr erthygl yma)
Dros y rhai misoedd dwythaf rwyf wedi cael fy nghyfynnu i'm cartref, ac er mod i ddim yn cwyno (tydi hyn ddim byd i gymharu hefo'r criw NHS yn mynd drwyddo), dwi jest a marw eisiau mynd am ddiwrnod allan i rhywle! Felly i achub fy mhwyll, reaf wedi bod yn cynllunio fy niwrnod perffaith wedi'r cyfnod cloi.
Rheilffordd Ffestiniog Railway
Wrth gwrs bod fy niwrnod perffaith yn cynnwys tren stem... ac yn naturiol, mae'n GORFOD bod y Rheilffordd Ffestiniog Railway. Baswn i'n gallu mynd ar y lein Ucheldir Eryri o Gaernarfon i Porthmadog cyn mynd ar tren o fanno i fyny i fy nghyfein ym Mlaenau Ffestiniog. Mwy na thebyg, y tren i Flaenau Ffestiniog fydd o...
“rwy’n mynd nol i Flaenau Ffestiniog,
canys yno mae fy seithfed nef,” – Tebot Piws.
(Mae'r Rheilffordd ar gau tan Gorffennaf 20fed. Bydd y trenau ar ol ail agor yn mynd o Borthmadog i Tan y Bwlch. Yn anffodus ni fydd trenau yn mynd i Flaenau Ffestiniog eto. Os yr ydych eisiau mynd ar un o'r trenau i Tan Y Bwlch yna mae angen i chi fwcio arlein cyn gynted a bo modd!)
Blaenau Ffestiniog

Dwi heb cweit benderfynnu os dwi am fynd oddi ar y tren yn Tanygrisiau ynteu ar ddiwedd y lein ym Mlaenau. Mae fy niwrnod perffaith yn cynnwys trip i weld Nain gan mod i heb ei gweld ers misoedd. Os ydwi'n dod oddi ar y tren ym Mlaenau mi allai gerdded i dy Nain a cael picnic yn yr ardd gyda hi - gan gymeryd bod y tywydd yn dal! Allai hefyd gerdded i ty Dad gan mod i heb weld o ers oed chwaith. Baswn i'n gallu cael panad yn ei ardd o hefyd.
Zipworld
Tra ym Mlaenau Ffestiniog buaswn yn gallu gadael y genod hefo'u Nain a piciad i Zipworld i fynd ar Zip World Titan. Dyma'r ardal zip fwyaf yn Ewrop. A mae'r golygfeydd dros dirwedd llechi Stinog yn syfrdanol! Neu yn hytrach baswn i'n gallu gwneud nhw i gyd - Titan, Slate Caverns a Bounce Below. Dwi wedi gwneud nhw i gyd on dwi'n bendant eisiau gwneud nhw i gyd eto. Erbyn meddwl, mae gen i daledbau sydd yn llosgi tyllau yn fy mhocedi!
(Zipworld wedi ail agor rwan gyda mesuriadau pellter cymdeithasol yn eu lle. Fe'ch cynghorir i fwcio o flaen llaw drwy eu gwefan).
Ceudyllau Llechi Llechwedd
Gan bod Ziworld wedi ei leoli yn Ceudyllau Llechi Llechwedd bysai braidd yn anghwrtais i mi beidio fynd o amgylch Llechwedd. I fod yn onast, baswn i'n hoffi mynd a'r gwr a'r genod ar y Deep Mine Tour. Dwi heb gwneud y daith yma ers i mi fod yn fy harddegau ac mae wedi cael "revamp" ers hynny (wel mae na 20 mlynedd wedi bod!). Mae'r daith yn werth mynd arni jest er mwyn cael gweld y llyn danddearol prydferth!
Tecawê Tsieineaidd
I orffen y diwrnod, cael tecawe o Golden Mountain - y tecawê Tsieineaidd lleol. Buaswn yn nol portion o 8c (cyw iar crispi hefo saws cyri, tsips a reis wedi ffrio... ohhh iym!), chop suye roll ac ella peli cyw iâr melys a sur. Buaswn yn rhannu'r gweldd yma gyda Mam nol yn fy nghartref plentyndod.
A dyna ni, fy niwrnod perffaith ym Mlaenau Ffestiniog wedi'r cyfnod cloi! Ydach chi dal o dan cyfyngiadau symyd? Be oedd diwrnod cyntaf ar ol y cyfnod cloi?

Gadael Ymateb