Treasure Trails Porthmadog Slate Railway
#Adverts & Sponsored Posts Eryri (Snowdonia) Bywyd Teulu Heritage Railways Gogledd Cymru Llechi Cymru

#Hysbys - Rheilffordd Llechi Porthmadog gyda Treasure Trails

Treasure Trails Porthmadog Slate Railway

(Mi ges i gopi o'r llwybrau am ddim gan Treasure Trails er mwyn creu yr erthygl yma) Yn yr Haf ddaru Treasure Trails gysylltu gyda mi i adolygu un o'u llwybrau. Ar ôl pori drwy eu gwefan ddos i ar draws llwybr Rheilffordd Llechi Porthmadog - faint o berffaith ydi hwn i mi?!

Yn yr Haf ddaru Treasure Trails gysylltu hefo ni i adolygu un o'r "trails". Ar ol edrych drwy eu gwefan nes i ffeindio'r daith gerdded "Rheilffyrdd Llechi Porthmadog" - faint o berffaith ydi hwn i mi?? Mae 'na cyn gymaint o wahanol rhai ar eu gwefan. Hwn oedd yr un oeddwn i eisiau ei wneud fwyaf ond mae na lwyth o rhai lleol baswn i'n hoffi gwneud rhyw ddiwrnod. Hefo dros 1000 o deithiau cerddad mi ydach chi siwr o ffeindio rhywbeth yn eich ardal lleol. 

Treasure Trails - Dewis Eich Fformat

Unwaith yr ydych wedi dewis eich taith, mi allwch lawrlwytho fersiwn pdf, cael fersiwn wedi ei brintio a'i anfon i chi, neu hyd yn oed cael fersiwn wedi'i bersonoli hefo eich lluniau chi. Ddaru ni ddewis y fersiwn wedi'i argraffu ymlaen llaw hefo'r cliwiau i gyd yn gynwysiedig. Wrth edrych yn ôl bysai'n well os tasa ni wedi mynd am y fersiwn pdf oherwydd y tywydd!!

Daith Gerdded Rheilffyrdd Llechi Porthmadog

On the left - the girls looking at the Yacht Club sign / on the right - husband reading the Treasure Trails clues at the harbour

Ella nes i ddim dewis y diwrnod gorau ar gyfer gwneud y daith gerdded ond mi gafon ni hwyl beth bynnag! Parcion ni yn prif maes barcio ym Morthmadog a gwneud ein ffordd tua cychwyn y Treasure Trail . Yn anffodus roedd y parc wedi cau oherwydd Covid ond roeddem yn gallu darllen bob dim oedden ni angen ei ffeindio heb orfod mynd i fewn i'r parc.

Dilyn y Cliwiau i Ffeindio Cloch Coll Jac

Porthmadog Harbour including Harbour Station

Yn dilyn y cliwiau fe wnaethom barhau i chwilio am gloch coll Jac. O'r parc fe aethon ni fynd i fyny Ffordd Garth i chwilio am fwy o atebion. Er gwaethaf y ffaith fy mod i wedi treulio sawl diwrnod ym Morthmadog dros y blynyddoedd, dwi ddim yn nabod yr ardal yna o gwbwl. Sydd eto'n profi bod Treasure Trails yn ffordd wych o ddargfnod ardal eich hun. 

Harbwr Porthmadog a'r Orsaf

Husband and the littles looking at the map outside Ffestiniog Railway's Harbour Station

O Ffordd y Garth mi allwch weld dros Harbwr Porthmadog yn cynnwys fy annwyl Rheilffordd Ffestiniog. Aeth y cliw nesaf â ni yn ôl i lawr tuag at yr harbwr a draw i Orsaf yr Harbwr. Unwaith eto, roedd cyfyngiadau Covid-19 yn golygu nad oeddwn yn gallu mynd o amgylch yr orsaf ei hun ond dim problem gan fy mod yn dal i allu dyfalu'r ateb cywir i'r cliw. Yn anffodus roedd hyn yn golygu chefais i ddim gweld unrhyw drenau er gwaethaf y ffaith mai'r diwrnod hwnnw oedd rhediad cyntaf y trenau ôl-Covid. 

Cob Crwn a Cefnau Porthmadog

Cob Crwn Porthmadog with the lake in foreground and grey sky in the background

Parhau ar y llwybr aethom am Cob Crwn sydd eto, yn rhywle nad oeddwn erioed wedi bod o'r blaen. Roeddwn i'n amlwg yn gwybod am y daith gerdded fach ond erioed wedi ei cherdded! Mae'n daith hyfryd ac mae'r olygfeydd yn anhygoel. Erbyn y pwynt hwn, roedd y tywydd wedi clirio ychydig felly llwyddon ni i weld ar draws yr aber. 

Ar ddiwedd Cob Crwn aethon ni tuag at yr Hen Felin lle roedd cliw arall yn aros. Yma roedd angen rhai sgiliau mathemategol a fyddai, sa chi'n feddwl, i ddau gyfrifydd, yn hawdd! Troi allan, allai'm cyfri! Diolch byth bod y gŵr yn gallu felly aethom ymlaen ar ein ffordd. Roedd y cliw nesaf hefyd yn gofyn am sgiliau rhif a diolch i'w fathemateg gyflym fe wnaethon ni ffiendio ateb i'r cliw yma hefyd.

Cliw Olaf a Trychineb!

On the left - the husband pretending to take a swig from the gates of Purple Moose Brewery / On the right me in foreground and the littles in background on the steps of Bryn Coffa

Ar y pwynt hwn, credaf bod gennym tua tri cliw ar ôl. Roeddwn i'n gwybod lle roedd y cliw nesaf felly fe wnaethon ni osgoi Stryd Fawr (dim ond oherwydd bod gormod o bobl ddim yn cadw at bellter cymdeithasol). Unwaith ddaru i ddod o hyd i'r cliw hwn aeth ymlaen i Reilffordd Treftadaeth Ucheldir Cymru ac i Bryn Coffa lle dylem fod wedi dod o hyd i'n cliw olaf.

Trychineb ofnadwy !! Oherwydd cyfyngiadau Covid-19 mi oedd Bryn Coffa wedi cau. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn broblem gan fod gan Treasure Trails wasanaeth testun y gallwch ei ddefnyddio os ydych chi'n mynd yn sownd ar unrhyw gliwiau. Mae mor hawdd ei ddefnyddio ac yn golygu ein bod wedi gallu gorffen y Llwybr! Ar ôl i chi gwblhau eich llwybr ac wedi dod o hyd i'r ateb, gallwch chi ei anfon i Treasure Trails a chael eich cynnwys mewn raffl fisol i ennill £100! Gwerth trio!

Felly er gwaethaf y glaw cawsom ddiwrnod braf iawn diolch i Treasure Trails ac o'r diwedd gall Jac gael ei gloch yn ôl!

Ydach chi erioed wedi gwneud daith gerddad Treasure Trails? Lle fuoch chi?

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .